{Ex per alium}
1 Deinkryd mawr o led
ankrain
2 fu'r mab mav ger llaw 'r muriau main
3 Naithiwyr ynghanol noethwynt
4 A rhew och mor oer fu r hynt
9 Gofyn o'i glud gofion glan
10 Am y mur o'm em eirian
11 Ai diddig anwyd oddef
12 Ai dyn wyd er Duw o nef
13 Dyn oeddwn heddyw liw dydd
14 Bydol wedi cael bedydd
15 Ac ni wnn o'm pwnn poenglwyf
16 Weithian byth eirian beth wyf
17 Syrthio ar draws dygn naws dioer
18 Clwyden o ia caledoer
19 [62r] Yngairferw dwfr Ing arfoll
20 Y syrthies yssiges oll
21 Pan dorreis wael ereis wedd
22 Plats gron gledr dwyfron dyfredd
23 Pell glywid o'r pwll gloia
24 Garm a bloedd garw mau bla
25 Gweau anaexlau o nych
26 Glaision mal wybr goleusych
27 Golwg bwl amlwg blymlawr
28 Gwydr ddrychau marl byllau mawr
29 Certh ei llun carth enau llaid
30 Craig ddiwig lithrig lathraid
31 Weithian gwaeth yman ymy
32 Nac yn y fron gan ia fry
33 Bygwyth mae'r gloyw bigau
34 O'r bargawd y maingnawd mau
35 Cryn hoelion ddifeirion farn
36 Cyhyd a rhai ôg hayarn
37 Pinnau serthau pan syrthynt
38 Pob vn oll pibonwy ynt
39 Syniawdd arnaf aisiniaid
40 Siltrwm gwewyr plwm ger plaid
41 [62v] Kyllyll a rhew defyll dioer
42 Newyddlif yn niweddloer
43 Byrblu rhewedig berwbla
44 Borau oer i'r berau i
45 Ys gwae fi rhewi ar hynt
46 Ysgillwaew drwg asgellwynt
49 Ysgwn mai gwell faithbell farn
50 Ysgidiau rhag ias gadarn
51 Nwyf clwyf clau farw ferwinwaed
52 Nag na bain ar druain draed
53 Mi ywr gwr mawr a guria
54 Mwyn a ddoeth i'r mynydd ia
55 etto a welir hir hun
56 Olwg dost ar ei eilun
57 O herwydd trangc difangcoll
58 Yn wyw iawn ac yn ia oll
63 Gan na chaf geinwych ofeg
64 le mewn ty liw manod têg
65 Yn ol hawl ynial helynt
66 Oedd raid i'm be caid be cynt
67 Tes gloyw tew twysc liw tywyn
68 A haul a ddattodai hyn
Da' ap Glm'